Seren Tan Gwmwl

Sefydlwyd Seren Tan Gwmwl yn 1990 gan Sion T. Jobbins, Ioan Wyn Evans ac Owen Llywelyn. Cyhoeddwyd y ddau rifyn cyntaf gan y tri yn 1990 fel Ffansin Cymdeithas Iolo Morganwg – Cymdeithas Hanes Annibynnol. Cafodd ei ail-lansio yn 1996 fel ffansin hanes annibynnol dan olygyddiaeth Owen Llywelyn, Daniel Davies a Tim Tillman, a’r tri yma fu wrth y llyw ar rifynnau 3 a 4. Yn dilyn marwolaeth Tim Tillman cyhoeddwyd rhifynnau 5 a 6 dan olygyddiaeth Owen Llywelyn a Daniel Davies. Cyhoeddwyd rhifynnau 7 ac 8 dan olygyddiaeth Owen Llywelyn, Daniel Davies a John Tillman, efaill Tim Tillman. Y brodyr Tillman oedd y grym creadigol y tu ôl i’r cartwnau, a gellir llwytho’r rhain ar eu pennau eu hunain hefyd. Gallwch lwytho pob rhifyn yn rhad ac am ddim trwy ddilyn y dolenni.